Cynghorau/Councils

 

Cyngor Cymreictod/Welsh Council

Mae’r Cyngor Cymreictod yn hybu defnydd o’r Gymraeg ac yn codi ymwybyddiaeth o draddodiadau a diwylliant Cymru. Enillodd yr Ysgol gwobr Efydd y Siarter Iaith yn Nhymor yr Haf 2018.

The Welsh Council promotes the use of the Welsh language and raises awareness of our traditions and culture. The School won the Bronze Award for the Welsh Charter during the Summer term 2018.

 Cyngor Eco/Eco Council

Nod Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDFE) yw sicrhau bod dysgwyr o bob oedran yn deall effaith eu dewisiadau ar bobl eraill, yr economi a’r amgylchedd.

Bwriad Ysgol y Frenni yw i herio dysgwyr i weld sut y gallant gyfrannu at fywydau pobl eraill. Mae’n cael ei gynnwys o fewn pynciau/meysydd amrywiol iawn a hefyd yn cael ei hybu gan y Cyngor Eco hwn.

Education for Sustainable Development and Global Citizenship (ESDGC) seeks to give learners, at all stages of education, an understanding of the impact of their choices on other people, the economy and the environment.

Ysgol y Frenni aims to challenge our pupils to see how they can contribute to the lives of others.  It is embedded in a wide range of subjects/areas and also promoted by this particular Council.

Beth yw’r 8 maes Ysgolion Eco?

What are the 8 topics of Eco Schools?

*Ynni                                      Energy

*Lleihau gwastraff              Reducing waste

*Dŵr                                      Water

*Tir yr ysgol                         School grounds

*Sbwriel                                Rubbish

*Cadw’n iach                       Staying healthy

*Dinasyddiaeth Fyd Eang    Global Citizenship

*Trafnidiaeth                      Transport

 Cyngor Ysgol/School Council

Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod bob pythefnos gyda Mrs Higginson. Bob pythefnos byddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella’r ysgol, ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.

We are pupils that have been elected by our classmates to represent them in School Council meetings. We meet fortnightly with Mrs Higginson. Every fortnight we discuss different ways of improving the school, and organise various events as well.

Dewiniad Digidol/Digital Wizards

Mae’r Dewiniaid Digidol yn cwrdd yn gyson i gael y wybodaeth diweddaraf ar TGCh fel eu bod yn medru hyfforddi sgiliau eu cyd-ddisgyblion.

The Digital Wizards meet regularly to discuss the latest information on ICT in order for them to share skills with their peers.